Nicht lieferbar
Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633 (eBook, ePUB) - Parry Owen, Ann
Schade – dieser Artikel ist leider ausverkauft. Sobald wir wissen, ob und wann der Artikel wieder verfügbar ist, informieren wir Sie an dieser Stelle.
  • Format: ePub

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint ( c .1580-1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma…mehr

  • Geräte: eReader
  • mit Kopierschutz
  • eBook Hilfe
  • Größe: 13.67MB
Andere Kunden interessierten sich auch für
Produktbeschreibung
Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580-1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y ty a'i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a'u hoffer; dyn, ei gorff a'i afiechydon, a'r gemau a'r chwaraeon a'i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gwr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu'n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.


Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, D ausgeliefert werden.