18,99 €
inkl. MwSt.

Versandfertig in über 4 Wochen
payback
9 °P sammeln
  • Broschiertes Buch

Yn ymestyn o'r Oesoedd Ia hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'.

Produktbeschreibung

Autorenporträt
Y mae John Davies yn frodor o'r Rhondda. Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n ddarlithydd yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth ac am ddeunaw mlynedd ef oedd Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, Y Celtiaid a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig/The Encyclopaedia of Wales. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod sefydlu y North American Association for the Study of Welsh History and Culture. Mae ei wraig yn frodor o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.