
Mil Naw Wyth Deg Pedwar (1984 in Welsh) (Caled / Hardback)
Versandkostenfrei!
Versandfertig in über 4 Wochen
37,99 €
inkl. MwSt.
Weitere Ausgaben:
PAYBACK Punkte
19 °P sammeln!
MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI... Ar gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg, Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd. Roedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol, ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus, yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four, ymhlith y nofelau m...
MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI... Ar gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg, Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd. Roedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol, ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus, yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four, ymhlith y nofelau mwyaf poblogaidd erioed mewn unrhyw iaith. Wedi'i chyhoeddi'n wreiddiol yn 1948, hwyrach mai Nineteen Eight-Four yw'r nofel ddistopaidd enwocaf erioed a bu'n gyfrifol am gyflwyno bathiadau newydd i'r iaith Saesneg fel Big Brother, Doublethink, Thought Police ac Orwellian. Sylwer: Dyma'r fersiwn 'duluxe' clawr caled, gyda thraethawd gan y cyfieithydd am y cyfieithiad, a rhestr eirfa Newyddiaith.