(Welsh Translation of Helle Helle's Danish short story collection Biler og Dyr) Menyw ifanc yn lladd amser ym mhriodas dieithriaid wrth aros am y bws nesaf. Hiraeth am y g¿r a'r plant a gollodd yn llethu gwraig. Pwmpen y mae angen ei chyffeithio'n droi'n ormes ar wraig arall. Merch ifanc ar drothwy newid byd. Trobwyntiau bywyd, posibiliadau newydd. Y diwedd yn aml yn ddechreuad. Helle Helle yw un o brif lenorion cyfoes Denmarc. Mae ei gwaith yn darlunio digwyddiadau cyffredin bob-dydd o bersbectif benywaidd. Arddull gynnil, finimalaidd sy'n ei nodweddu. Ond mae'r tonnau ar wyneb y llyn yn bradychu cynnwrf yn y gwaelodion. Y casgliad hwn o un-ar-bymtheg o'i straeon byrion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2000, yw un o'r gweithiau cyntaf erioed i gael ei gyfieithu o'r Ddaneg i'r Gymraeg. Nid yw eto wedi'i gyfieithu i'r Saesneg. Mae'r cyfieithydd, Richard Crowe, yn siarad nifer o ieithoedd ac wedi gweithio fel cyfieithydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru; hwn, fodd bynnag, yw ei gyfieithiad cyntaf o ryddiaith greadigol.
Noch keine Bewertungen vorhanden
Verfassen Sie die erste Bewertung zu diesem Artikel
Helfen Sie anderen Kundinnen und Kunden durch Ihre Meinung.
Kurze Frage zu unserer Seite
Vielen Dank für dein Feedback
Wir nutzen dein Feedback, um unsere Produktseiten zu verbessern. Bitte habe Verständnis, dass wir dir keine Rückmeldung geben können. Falls du Kontakt mit uns aufnehmen möchtest, kannst du dich aber gerne an unseren Kund*innenservice wenden.